#

 

 

 

 


Briff ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-720

Teitl y ddeiseb: Deiseb Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn i Osod Band Eang Ffibr Opteg

Testun y ddeiseb: Rydym ni, trigolion Penderyn, wedi llofnodi’r ddeiseb isod i fynegi’n dymuniad i gael band eang opteg ffibr yn ein pentref. Byddai’r gwasanaeth hwn yn trawsnewid ein cymuned, yn ein helpu ni fel defnyddwyr i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn gymdeithasol yn ogystal â’r rhai sy’n gweithio yn y pentref naill ai mewn busnesau lleol  neu sy’n gweithio gartref.

Cefndir a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae BT wrthi'n cyflwyno band eang cyflym iawn ledled Cymru drwy brosiect Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru. Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, yr UE a buddsoddiad BT ei hun. Ym mis Gorffennaf 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru estyniad i'r prosiect hwn i gwmpasu 42,000 o safleoedd ychwanegol: o ganlyniad i hyn, estynnwyd dyddiad cau'r rhaglen i haf 2017.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal dau gynllun arall i wella argaeledd band eang:

§    Allwedd Band Eang Cymru: mae grantiau o hyd at £800 ar gael lle na all y safle gael mynediad at fand eang cyflym ar hyn o bryd;

§    Y Cynllun Taleb Gwibgyswllt: mae grantiau o hyd at £10,000 ar gael i ariannu (neu ariannu'n rhannol) costau gosod cysylltiadau cyflym iawn newydd i fusnesau yng Nghymru

Mae gan Lywodraeth Cymru raglen manteisio ar fand eang cyflym iawn pum mlynedd gwerth £12.5 miliwn er mwyn helpu busnesau i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a gynigir gan fand eang cyflym iawn. Caiff hyn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yr UE, awdurdodau lleol a ffynonellau academaidd a phreifat. 

Mae data diweddaraf Ofcom ar gyfer gwasanaeth band eang (Mehefin 2015) yn dangos, ers 2014 mae gwasanaethau band eang cyflym iawn wedi cynyddu'n gyflymach yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y DU:

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar 2 Tachwedd 2016, cynhaliodd y Ceidwadwyr Cymreig ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar fynediad i fand eang. Dyma'r cynnig diwygiedig fel y'i pasiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i gyflawni o safbwynt gweithredu cynllun Cyflymu Cymru, sef cynllun sydd wedi galluogi dros 610,000 o eiddo ar draws Cymru i fanteisio ar fand eang cyflym ac a fydd yn galluogi 100,000 o safleoedd ychwanegol i fanteisio arno erbyn i’r prosiect ddod i ben yn 2017.

2. Yn nodi cynnydd Allwedd Band Eang Cymru a’r prosiect a wnaeth ei ragflaenu sydd wedi galluogi dros 6,500 o eiddo ar draws Cymru i fanteisio ar fand eang drwy wahanol dechnolegau arloesol.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd band eang cyflym a chysylltedd digidol i fusnesau, cymunedau a’r economi ym mhob rhan o Gymru ac yn nodi ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i gynnig band eang dibynadwy a chyflym i bob eiddo yng Nghymru.

4. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i:

(a) cydweithio ag Ofcom, Llywodraeth y DU a gweithredwyr y rhwydwaith er mwyn cynnig mynediad at fand eang cyflym a signal ffonau symudol ar draws Cymru;

(b) diwygio Hawliau Datblygu a Ganiateir o fewn y system gynllunio er mwyn hybu buddsoddiad yn y seilwaith telathrebu ac adleoli’r rhwydwaith;

c) pwyso a mesur yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban wedi’i gyflawni drwy ei chynllun gweithredu ffonau symudol wrth ddatblygu cynigion yng Nghymru; a

d) cyhoeddi rhagor o wybodaeth am estyn mynediad at fand eang dibynadwy a chyflym i bob eiddo yng Nghymru.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.  Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.